Adolygiadau Arfer

Beth yw Adolygiad Arfer Plant?

Mae Adolygiadau Arfer yn drefniadau ar gyfer cynnal adolygiadau amlasiantaeth mewn amgylchiadau lle mae cam-drin/esgeulustod yn hysbys neu'n cael ei amau a bod naill ai plentyn neu oedolyn mewn perygl wedi marw neu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl yn dioddef nam difrifol i’w iechyd neu ei ddatblygiad o ganlyniad i ddigwyddiad sylweddol. 

Mae'r fframwaith hwn yn sicrhau bod asiantaethau, staff a theuluoedd yn adolygu mewn ffordd cydweithredol ac yn dysgu o'r hyn a ddigwyddodd.

Beth yw'r broses ar gyfer cynnal yr Adolygiad Arfer Plant?

Sefydlir panel amlasiantaeth sy'n cynnwys uwch-staff o'r holl asiantaethau perthnasol. Mae'r panel hwn yn casglu'r holl wybodaeth berthnasol o'i asiantaethau unigol ei hun er mwyn datblygu llinell amser o ddigwyddiadau arwyddocaol. Gwneir hyn fel arfer drwy astudio cofnodion asiantaeth yn fanwl. Elfen allweddol arall o'r broses hon yw digwyddiad dysgu wedi'i hwyluso sy'n canolbwyntio ar ymarferydd a arweinir gan adolygwyr annibynnol. Mae'r digwyddiad hwn yn dod â'r holl ymarferwyr sydd wedi bod yn rhan o'r achos ynghyd fel y gallant rannu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd a nodi pwyntiau dysgu allweddol.

Rhagor o wybodaeth