Amdanom ni

“Gyda'n gilydd mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth atal, canfod ac adrodd am esgeulustod a cham-drin”.

Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg i hyrwyddo, cyfeirio a chefnogi diogelwch amlasiantaeth plant ac oedolion ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Ni yw'r dull statudol allweddol ar gyfer cytuno sut y bydd sefydliadau'n gweithredu ar y cyd i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sy'n byw yn y rhanbarth.

Fforwm amlasiantaeth yw Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg sy'n dod â chynrychiolwyr o bob un o'r prif asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso at ei gilydd.

Mae Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg yn gyfrifol am:

  • gytuno ar sut y dylai'r gwasanaethau a'r grwpiau proffesiynol gwahanol gydweithio er mwyn diogelu plant ac oedolion
  • gan sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn cael canlyniadau gwell i blant ac oedolion yng Ngorllewin Morgannwg

Ein gweledigaeth

Sicrhau bod plant, pobl ifainc ac oedolion yng Gorllewin Morgannwgyn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac nad ydyn nhw mewn perygl o hynny, a'u bod nhw'n byw mewn amgylchedd sy'n hybu eu lles. Bydd y bwrdd yn ymgysylltu â phlant, pobl ifainc ac oedolion, ac yn gwrando ar eu barn.

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed a'u hatal rhag dod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed.

Plant

Diffinnir plentyn gan ddeddf plant 1989 fel unrhyw un sy'n llai na 18 oed. Diffinnir 'plentyn mewn perygl' yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel plentyn sydd;

  • sy'n profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu fathau eraill o niwed; a
  • sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio)

Oedolion

Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff 'oedolyn sydd mewn perygl' ei ddiffinio fel oedolyn sydd:

  • yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu mewn perygl o'r rhain;
  • angen gofal a chymorth (p'un a yw'r Awdurdod Lleol yn diwallu'r anghenion hynny ai peidio); ac
  • oherwydd yr anghenion hynny, yn methu ag amddiffyn ei hunan rhag cael ei gam-drin neu'i esgeuluso, neu rhag bod mewn perygl o hyn.

Cam-drin

Mae Cam-drin yn golygu cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol. Mae cam-drin ariannol yn cynnwys;

  • rhywun yn dwyn eich arian neu eiddo arall
  • wynebu twyll ariannol
  • cael eich rhoi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall
  • rhywun yn camddefnyddio eich arian neu fath arall o eiddo

Esgeulustod

Ystyr esgeulustod yw peidio â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol yr unigolyn, sy'n debygol o amharu ar ei les.

Goruchwylir gwaith diogelu yng Ngorllewin Morgannwg gan Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg, sy'n fwrdd amlasiantaethol rhanbarthol. Mae'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • diogelu
  • ddiogelwch

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â wgsb@npt.gov.uk

Busnes pawb yw diogelu.

Ein Gweledigaeth

Sicrhau bod plant, pobl ifainc ac oedolion yng Gorllewin Morgannwgyn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac nad ydyn nhw mewn perygl o hynny, a'u bod nhw'n byw mewn amgylchedd sy'n hybu eu lles. Bydd y bwrdd yn ymgysylltu â phlant, pobl ifainc ac oedolion, ac yn gwrando ar eu barn.
Sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yng Ngorllewin Morgannwg yn cael eu hamddiffyn a'u hatal rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed. Bydd y Bwrdd yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc ac oedolion, yn gwrando arnynt ac yn eu clywed.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed a'u hatal rhag dod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed.

Diffinnir plentyn gan ddeddf plant 1989 fel unrhyw un sy'n llai na 18 oed. Diffinnir 'plentyn mewn perygl' yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel plentyn sydd;
• sy'n profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu fathau eraill o niwed; a

  • sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio)
  • Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff 'oedolyn sydd mewn perygl' ei ddiffinio fel oedolyn sydd:
  • yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu mewn perygl o'r rhain;
    angen gofal a chymorth (p'un a yw'r Awdurdod Lleol yn diwallu'r anghenion hynny ai peidio); ac
  • oherwydd yr anghenion hynny, yn methu ag amddiffyn ei hunan rhag cael ei gam-drin neu'i esgeuluso, neu rhag bod mewn perygl o hyn.

Mae Cam-drin yn golygu cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol. Mae cam-drin ariannol yn cynnwys;

  • rhywun yn dwyn eich arian neu eiddo arall;
  • wynebu twyll ariannol;
  • cael eich rhoi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
  • rhywun yn camddefnyddio eich arian neu fath arall o eiddo

Ystyr esgeulustod yw peidio â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol yr unigolyn, sy'n debygol o amharu ar ei les.

Goruchwylir gwaith diogelu yng Ngorllewin Morgannwg gan Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg, sy'n fwrdd amlasiantaethol rhanbarthol. Mae'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • Diogelu
  • Ddiogelwch

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â wgsb@npt.gov.uk

Busnes pawb yw diogelu.