Datganiad I'r Wasg
Datganiad ysgol ar ôl marwolaeth drasig disgybl
This article is more than 22 months old
20 Mehefin 2023
Mae Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth St Joseph, Port Talbot, wedi cyhoeddi datganiad ynghylch marwolaeth disgybl ar Draeth Aberafan.
Dywed y datganiad: “Rydym wedi ein tristau’n fawr gan y newyddion am farwolaeth drasig ac annisgwyl un o’n disgyblion o Flwyddyn 11. Rydym wedi sefydlu darpariaeth i gefnogi disgyblion gyda chymorth gwasanaeth cwnsela CnPT a’n hoffeiriaid lleol.”
“Anfonwn ein cydymdeimlad cywiraf a’n gweddïau at deulu a ffrindiau’r dyn ifanc rhagorol hwn ac rydym ni’n gweithio i gefnogi cymuned ehangach yr ysgol.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau’r dyn ifanc a gollodd ei fywyd yn y digwyddiad gwirioneddol drasig hwn.”