Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Digwyddiad rhad ac am ddim sy’n llawn antur yn talu teyrnged i’r Lluoedd Arfog ddoe a heddiw

24 Hydref 2024

Bydd Gŵyl Dydd y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot yn digwydd rhwng 10am tan 4pm ddydd Sadwrn (26 Hydref) ym Mhort Talbot, gyda digonedd i’w weld a’i wneud dan do ac yn yr awyr agored yn ystod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.

Lochesi Anderson

Ymysg y digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan Siopa Aberafan bydd lansio Apêl Pabi Coch Lleng Prydeinig Brenhinol Port Talbot a chysegru’r Ardd Gofio –sydd eleni wedi’i dylunio fel gardd i goffau 80-mlwyddiant D-Day. Cynhelir seremoni codi baner gan ddechrau am 10.45am, gan gynnwys y Caniad Olaf a dau funud o dawelwch am 11am.

Rywbryd rhwng 11.15am a 11.30am mae’r Fyddin yn cynllunio rhoi syrpreis cerddorol i bawb. Dilynir hyn gan seremoni cyflwyno gwobrau mewn dwy gystadleuaeth gelf i blant. Fe wnaeth ‘Celfyddyd bod yn Blentyn Milwrol’ a ‘Celfyddyd D-Day’ wahodd plant a phobl ifanc i gyflwyno cerdd, stori fer, neu lun ar y pynciau hyn. Cafwyd dros 50 o geisiadau. Noddwyd y gwobrau gan Llanelec Precision Engineering, Wall Colmonoy, a’r Bathdy Brenhinol.

Bydd seremoni arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog ar ran Canolfan Siopa Aberafan a Tai Tarian. Mae'r Cyfamod yn addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rheini sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg a'u bod ddim dan anfantais yn eu bywydau bob dydd.

Bydd rhaglen y prynhawn yn cynnwys Clwb Iwceleli Abertawe a’r pibydd Ioan Osborne. Am  12pm bydd Llyfrgell Port Talbot, a leolir ar lawr cyntaf y ganolfan siopa, yn cyflwyno sgwrs ar hanes a gwaith parhaus Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, gyda sylw arbennig i rai a gollwyd o Gastell-nedd Port Talbot.

Drwy gydol y dydd bydd hefyd sgyrsiau gan yr hanesydd milwrol lleol, Phil Barrow, a chyfle i wisgo dillad o’r cyfnod o flaen cefnlen yr Ail ryfel Byd gyda Gweithdy Rhyfel Byd Cymru, a fydd hefyd yn arddangos eitemau hanesyddol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am yr Ail Ryfel Byd, piciwch draw i gael sgwrs gyda nhw.

I ymwelwyr iau, bydd Gwasanaeth Ieuenctid CnPT yn cynnig gweithgareddau rhad ac am ddim.

Bydd pedair baner a wnaed o rwyd scrim milwrol yn hongian o nenfwd y ganolfan siopa. Defnyddir rhwydi fel hyn yn draddodiadol i guddliwio milwyr ar gyrchoedd, ond fe’i addurnir ar gyfer yr ŵyl â thros 1,500 blodyn pabi a gafodd eu gweu, eu crosio a’u crefftio â ffelt gan ysgolion, grwpiau gwau ac unigolion o bob cwr o’r fwrdeistref sirol a’r cyffiniau.

Ynghyd â hyn oll, bydd yno 25 stondin wybodaeth.

Tu fas, bydd y Sgwâr Dinesig yn gartref i arddangosfa o gerbydau gwasanaeth milwrol a brys, gan gynnwys Wagen Adfer Cerbydau Milwrol MAN, Land Rovers, Jeeps hanesyddol, beiciau modur, Tanc Cerbyd Rhagchwilio Ymladd (CVRT), a Chludwr Arfau Dodge. Mae’n siŵr mai un o’r uchafbwyntiau fydd pâr o Lochesi Anderson – gall ymwelwyr fynd i mewn i un i gael blas ar eu maint, ac mor fach oedden nhw, tra bo’r llall wedi’i osod fel pe bai ar fin croesawu teulu i gysgodi ynddo. Bydd arbenigwr ar gael hefyd i esbonio mwy am fywyd yn ystod y Blitz.

Mae trefnu’r digwyddiad, sy’n rhan o Ŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot, wedi bod yn ymdrech bartneriaeth go iawn rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Lluoedd Arfog Prydeinig, Lleng Prydeinig Brenhinol Port Talbot a Chanolfan Siopa Aberafan.

Mae’r ŵyl wedi ei ariannu yn rhanno gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael mwy o wybodaeth am yr ŵyl ewch i www.npt.gov.uk/gla .                                         

 

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT