Datganiad I'r Wasg
Gwahodd preswylwyr i drafod dewisiadau anodd y gyllideb wyneb yn wyneb gydag arweinwyr cyngor
This article is more than 7 months old
05 Tachwedd 2024
Unwaith eto, bydd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y Cynghorydd Steve Hunt, a’i Gyd-aelodau Cabinet, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phreswylwyr i drafod y gwasgfeydd ariannol parhaus.
Maen nhw wedi cyhoeddi dyddiadau a lleoliadau ar gyfer cyfres o gyfarfodydd i drafod yr amodau economaidd stormus presennol, a beth allai hynny ei olygu i’n preswylwyr ac i wasanaethau hanfodol y cyngor.
Byddan nhw’n gosod eu stondin mewn lleoliadau cyhoeddus poblogaidd ar draws y fwrdeistref sirol ym mis Tachwedd, ble gall pobl leol drafod a chynnig awgrymiadau o ran y ffordd orau i fynd i’r afael â chyllideb arfaethedig y cyngor ar gyfer 2025/26.
Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau'r cyfarfodydd sy'n dechrau gyda chyflwyniad 15 munud ac yna sesiwn holi ac ateb 45 munud yw:
- Llun 11 Tach 2024, 4pm – 5pm, Neuadd Gwyn, Castell-nedd.
- Mawrth 12 Tach 2024, 6pm – 7pm, Llyfrgell Pontardawe.
- Llun 18 Tach 2024, 12.30pm – 1.30pm, Canolfan Siopa Aberafan
- Mawrth 19 Tach, 6pm – 7pm, Cyfarfod Ar Lein drwy Microsoft Teams (Dolen Yma) - bydd manylion am sut i ymuno yn cael eu rhyddhau yn fuan.
Yn gynt eleni, anfonodd y Cynghorydd Hunt lythyr at Lywodraeth Cymru a San Steffan i fynegi pryderon difrifol o ran ariannu cynghorau lleol, yn dilyn awgrym gan Lywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru baratoi i weld DIM cynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw (yr arian a roddir gan Lywodraeth Cymru i gynghorau i gynnal gwasanaethau) yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Anfonwyd y llythyr, oedd hefyd yn apelio am ‘ariannu teg’, mewn ymateb i gynnig trawsbleidiol a gytunwyd mewn cyfarfod llawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf, 2024, pan deimlodd cynghorwyr ei bod hi’n hanfodol “seinio cloch rhybudd” oherwydd lefelau cyllido, wrth i gynghorau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol.
Yn ôl y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae’r gwasgfeydd ariannol difrifol y mae’r cyngor hwn yn ei wynebu er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl leol yn dod yn erbyn cefndir y miloedd o swyddi sy’n cael eu colli yng ngwaith dur Port Talbot.
“Bydd ein cynlluniau i gynhyrchu cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26 yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan wasgfeydd enfawr a achosir gan gynnydd mewn pobl sy’n ceisio cymorth y gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a chostau cynyddol am nwyddau, bwyd ac ynni.
“Rydyn ni’n chwilio am fewnbwn oddi wrth ein preswylwyr, oddi wrth undebau, a phartneriaid eraill, o ran sut y dylem wynebu’r dewisiadau anodd ar gyfer y gyllideb sydd o’n blaenau, ac yn y cyfarfodydd cyhoeddus hyn i ymgynghori ar y gyllideb, dyma gyfle ein preswylwyr i ddweud eu dweud wrthym wyneb yn wyneb. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu cyfarfod.”
Mae cyfarfodydd cyhoeddus mis Tachwedd 2024 i drafod y gyllideb yn dilyn trafodaethau wyneb yn wyneb tebyg am y gyllideb a gafwyd gyda phreswylwyr yn 2022 a 2023.