Grant yn helpu i roi busnes harddwch ar ben y ffordd
Nod Michelle Skellern yw helpu partïon priodasol i edrych ar eu gorau ar gyfer y diwrnod mawr. 
Mae gan yr harddwr profiadol wasanaeth teithiol, ac mae'n cynnig amrywiaeth llawn o driniaethau gwallt a harddwch i restr gynyddol o gleientiaid yng Nghymru a'r tu hwnt.
Lansiwyd Pure Hair & Beauty ychydig dros flwyddyn yn ôl o safle Michelle yng Nglyn-nedd gyda grant o £500 gan Kickstart ar gyfer hanfodion. Cynhelir y rhaglen Kickstart ar y cyd rhwng is-sefydliad Tata Steel, UK Steel Enterprise, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
"Roedd y gefnogaeth honno'n bwysig iawn, gan fy helpu i roi cychwyn ar y busnes," meddai Michelle. "Roeddwn i'n arfer prynu cynnyrch a chyfarpar ar gyfer y busnes a byddai wedi bod yn anodd iawn i'w lansio hebddo."
Mae Pure Hair & Beauty yn cyflwyno triniaethau o safon gan weithiwr proffesiynol cymwys ac yswiriedig.
Yn ogystal â theithio i weld cleientiaid unigol, mae Michelle yn darparu ar gyfer achlysuron arbennig fel partïon maldodi, partïon cyn priodas a phen-blwyddi. "Byddaf yn mynd i helpu unrhyw fenywod sydd am edrych ar eu gorau" meddai.
Mae partïon maldodi tywysogesau i blant yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd.
Yn y tymor hwy, mae hi'n gweld y bydd y busnes yn tyfu yn sgîl y farchnad briodasau.
"Mae pobl yn gwario symiau mawr o arian ar briodasau ac mae'n amlwg bod y briodferch a'i pharti am edrych ar eu gorau a theimlo'n gwbl hyderus. Mae'n iawn eu bod am i bopeth i fod yn berffaith.
"Rwyf wedi darparu gwasanaethau gwallt a harddwch mewn llawer o briodasau, ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn wneud mwy ohono," meddai.
Mae helpu pobl ar ddiwrnod eu priodas yn gofyn am lawer o brofiad. "Mae angen i chi ddeall sut bydd y briodferch a'i pharti'n teimlo ar y diwrnod, ac efallai y byddant yn bryderus," ychwanegodd.
Mae gan Michelle dros ddeng mlynedd o brofiad yn y busnes gwallt a harddwch. Enillodd gymhwyster Lefel 2 o Goleg Aberdâr, ac yna aeth ymlaen i gyflawni Lefel 3 yng Ngholeg Merthyr.
Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr UK Steel Enterprise yn Nghymru, "Rydym yn falch iawn o weithio gyda Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot i helpu i lansio busnesau newydd yn y gymuned, a chreu cyfleoedd swyddi.
"Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Michelle wrth iddi weithio i ehangu ei busnes a datblygu'r sylfaen gleientiaid."