Canolfan Hygyrchedd Digidol Castell-nedd yn helpu busnesau ar draws y Byd gyda'u gwasanaethau ar-lein
Rydym yn byw mewn byd digidol lle gallwn drefnu'n bywydau a chyrchu gwybodaeth drwy dapio bysellfwrdd neu sgrîn. Ond i'r rhai â gofynion mynediad ychwanegol a/neu anableddau, nid yw llywio'r rhyngrwyd bob amser yn hawdd. 
Mae'r ganolfan hygyrchedd digidol a sefydlwyd yn helpu i unioni'r fantol. Yno mae tîm arbenigol wedi rhoi miloedd o wefannau a gwasanaethau ar-lein ar brawf er mwyn sicrhau y gall pawb eu cyrchu, a hynny ar draws amrywiaeth o lwyfannau digidol.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny, ond gall hyd yn oed y cwmnïau a'r sefydliadau mwyaf syrthio'n fyr o'u rhwymedigaethau hygyrchedd
Ffurfiwyd menter gymdeithasol – wedi'i chyfyngu gan warant ac yn gweithredu ar sail nid er elw 100% – sef y Digital Accessibility Centre (DAC), yn 2010 gan Cam Nicholl a Gavin Evans, ac mae ganddi ei harwyddair ei hun ‘Oherwydd bod pawb yn bwysig’.
Mae'r DAC ym Mharc Busnes Darcy yn Llandarcy wedi tyfu fesul tipyn ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi 36 aelod o staff, gan gynnwys saith archwiliwr technegol a 26 o ddefnyddwyr profi. Mae agosrwydd y swyddfa i'r M4 yn golygu ei bod hi'n ddelfrydol ar gyfer cleientiaid sy'n ymweld ac aelodau staff sy'n teithio o bob rhan o'r DU. 
Mae gan y rhan fwyaf o aelodau tîm y DAC anableddau, a phrofir addasrwydd llwyfan ar gyfer amrywiaeth o namau gan gynnwys rhai gweledol, clyw a symudol, gwybyddol, syndrome Asperger, ac anhwylderau pryder/panig.
Mae gan gleientiaid fynediad at amrywiaeth o ddulliau profi hygyrchedd digidol a gwasanaethau adolygu, gan gynnwys adolygu dyluniadau, profi templedi, archwilio ac ardystio, hyfforddiant hygyrchedd, ymgynghorwyr, offeryn adborth AccessIN a'r ychwanegiad mwyaf diweddar - creu modiwlau hygyrchedd e-ddysgu.
Mae gan y DAC rhestr drawiadol o gleientiaid sy'n cynnwys cwmnïau sglodion glas a rhyngwladol yn ogystal ag adrannau llywodraeth a banciau.
Cwsmer cyntaf y fenter oedd Channel 4, ac ers hynny mae'r DAC wedi darparu gwasanaethau i lu o enwau cyfarwydd gan gynnwys y manwerthwyr Tesco a Next, y darparwyr cyfathrebiadau Vodaphone, Three a BT a chyrff fel Cymdeithas y Cyfreithwyr a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae gan y fenter gleientiaid o wahanol gyfandiroedd hefyd, gyda sawl cwmni o America ac Awstralia'n defnyddio gwasanaethau'r DAC.
Meddai cyfarwyddwr adran gwerthiannau a gwasanaethau'r DAC, Cam Nicholl, "rydym mewn sefyllfa dda gan ein bod yn gallu ysgogi newid cadarnhaol er budd pobl anabl.
"Rydym wedi bod mor lwcus; mae ein tîm yn wych, yn ymroddedig, yn amyneddgar ac yn broffesiynol, mae gennym ystod eang o gwsmeriaid ac rydym mewn sefyllfa dda gan fod ein sylfaen cleientiaid wedi'i rhannu'n gyfartal ar draws y sectorau. Fel cwmni, rydym yn gobeithio parhau i gynyddu nifer ein staff ac efallai brynu neu adeiladu ein swyddfeydd ein hunain.
Profir yn unol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG 2.1) gan ddilyn argymhellion llywodraeth y DU a llywodraethau rhyngwladol, ac yn ogystal â hyn, defnyddir digon o synnwyr cyffredin sy'n darparu cyngor ac arweiniad hygyrchedd 'bywyd go iawn'.
"Rydym wir yn gwneud gwahaniaeth," meddai'r Uwch-ddadansoddwr Hygyrchedd,
Ziad Khan, sydd, fel llysgennad brand y DAC, yn hybu ymwybyddiaeth o hygyrchedd digidol mewn cynadleddau a digwyddiadau ledled y DU.
I Ziad, y mae ei olwg yn 5% yn unig, mae'r gwaith a wneir yn y DAC yn cael effaith bersonol hefyd.
Meddai, "Rwy'n mynd adref ac yn defnyddio gwefannau neu apiau rydym wedi gweithio arnyn nhw. Mae'r gwaith profi rydym yn ei wneud yn golygu y gall datblygwyr wneud newidiadau ac addasiadau fel y gall pobl fel fi ddefnyddio'r gwefannau.
"Pan fyddwn yn mynd adref, rydym yn profi'r effeithiau gwirioneddol sy'n gwneud gwahaniaeth i ansawdd ein bywydau.
"Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i allu gweithio mewn diwydiant lle gallwn wneud cymaint o wahaniaeth i bobl eraill.
Mae'r Dadansoddwr Actifadu â Llais, Rebecca Morgan, sydd wedi bod gyda'r DAC ers y cychwyn cyntaf, yn gweithio gyda chleientiaid sy'n ymweld i dynnu sylw at broblemau a gwella'u gwasanaethau. Meddai, "Efallai mai newid bach yw hyn iddyn nhw, ond mae'n golygu byd o wahaniaeth i rywun arall."
Mae'r DAC sy'n gyflogwr a achredir gan y Living Wage Foundation, wedi derbyn cefnogaeth gan ddatblygwyr Parc Busnes Darcy, St Modwen, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot - ac enillodd y wobr ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid yng Ngwobrau Busnes CNPT 2018.
Meddai CAM, "Mae CBSCNPT wedi bod yn wych. Mae wedi'n helpu ni gyda nifer o bethau gan gynnwys ariannu offer megis cyfrifiaduron a phodiau preifatrwydd yn rhannol.
Wrth wneud sylw ar berthynas y fenter â chyfarwyddwr gweithrediadau CBSCNPT, meddai Gavin Evans, "Mae'r Uned Adfywio a Datblygiad Economaidd yn rhoi'r gefnogaeth a'r mynediad at wasanaethau i'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol sy'n ein helpu i ddatblygu fel menter gymdeithasol. Mae'r berthynas hon yn hynod bwysig i ni.
"Mae'r mynediad at gyllid a chefnogaeth fusnes wedi'n helpu i fynd â'r cwmni i'r cam nesaf o dwf. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu'n hamcanion busnes, a chyflogi unigolion ag anableddau yn yr ardal leol, gan ddatblygu'n cenhadaeth a'n hamcanion.
www.digitalaccessibilitycentre.org