Parc Ynni Baglan
Parc Ynni Baglan
Parc Ynni Baglan yw’r cam cyntaf yn y cynllun i adfywio Bae Baglan, safle datblygiad unigol a fydd yn y pen draw yn cynnwys rhyw 1,500 erw.
Mae'r parc yn datblygu fel un o leoliadau busnesau diwydiannol blaenllaw Cymru ac yn dyst i'r hyn y gellir ei gyflawni drwy bartneriaeth gyhoeddus/breifat effeithiol.

Mae'r parc hwn ger yr M4 yn allweddol i gynlluniau'r Cyngor i drawsnewid yr ardal er mwyn sicrhau dyfodol diwydiannol gwyrdd a chreu miloedd o swyddi.
Un pwynt gwerthu unigryw yw'r system cynhyrchu pwer ar y safle sy'n darparu trydan am bris cystadleuol i fusnesau yn y parc drwy uned bwer tyrbinau nwy cylch cyfun General Electric.
Yn ddiweddar, mae'r parc sydd eisoes wedi denu buddsoddiad o'r radd flaenaf gan amrywiaeth o gwmnïau, wedi ennill Gwobr Adfywio Trefol Prydain 2007, Gwobr Cymunedau Cynaliadwy Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd a Chronicl Llywodraeth Leol a Gwobr Rhagoriaeth Cymru i gydnabod arfer gorau mewn adfywio.
Am ragor o wybodaeth am Bac Ynni Baglan, ewch i'r wefan ganlynol: http://www.baglanbay.com/