Ffordd Ddosbarthu Ymylol
Ffordd Yr Harbwr

Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i
gwblhau llwybr trafnidiaeth pwysig yng Nghastell-nedd Port Talbot
wedi cael y golau gwyrdd, gan greu cannoedd o gyfleodd
cyflogaeth.
Bydd cymeradwyo £107m o arian gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru a'r UE yn galluogi adeiladu Ffordd yr Harbwr, gan
gwblhau'r Ffordd Ddosbarthu Ymylol (FfDdY) yn y sir.
Ffordd yr Harbwr yw'r prosiect trafnidiaeth
mwyaf i'w gefnogi gan raglen Gydgyfeirio CDRE yng Nghymru a bydd yn
darparu cyswllt 4.8km i'r M4 ar gyffordd 38, i mewn i Bort Talbot
a'r dociau, gan weithredu fel cyswllt hanfodol i orllewin Cymru,
rhwydwaith traffyrdd y DU, rhwydwaith y cefnffyrdd a thir mawr
Ewrop.
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau a gallwch
gael hyd i fwy o wybodaeth a'r diweddaraf am y datblygiadau ar
wefan ddynodedig Ffordd yr Harbwr: