Cefnogi Busnesau Twristiaeth

Mae twristiaeth yn rhan bwysig a datblygol o economi Castell-nedd Port Talbot.
Yn 2016 yn unig daeth 1.47 miliwn o ymwelwyr i'r ardal, gan gyfrannu £110 miliwn at yr economi leol. Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn darparu mwy na 1,578 o swyddi yn yr ardal.
Ar y dudalen hon, ceir amrywiaeth o wybodaeth o'n Cynllun Rheoli Cyrchfannau trosgynnol i ymchwil ymwelwyr ac ystadegau sy'n ymwneud â Chastell-nedd Port Talbot.
Lawrlwythiadau
Cynllun Rheoli Cyrchfannau Castlell-nedd Port Talbot 2015-2020
Math o ffeil |
Dogfen |
Maint ffeil |
pdf |
Cynllun Rheoli Cyrchfannau
|
3.42 MB |
Lawrlwytho...
Packaging:
Complete
Cronfa Ffotograffau Cyrchfannau Castell-nedd Port Talbot

Bwriedir i Gronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot gael ei defnyddio gan weithredwyr twristiaeth a'r rhai sy'n gysylltiedig â hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae'r gronfa ffotograffau'n cynnwys lluniau o atyniadau twristiaeth yr ardal, tirluniau a gweithgareddau awyr agored eraill.
Mae busnesau o sectorau eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd yn gallu defnyddio'r ffotograffau at ddibenion mewnfuddsoddi.
I ddefnyddio Cronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot, lawrlwythwch a chwblhewch y cytundeb canlynol.
Prosiect Datblygu Twristiaeth Yng Castell-nedd Port Talbot 2016-2019
Bydd y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot yn cynorthwyo gweithredwyr twristiaeth i godi proffil Castell Nedd Port Talbot fel cyrchfan i ymwelwyr.
Bydd y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot yn:
- Mapio anghenion gweithredwyr twristiaeth o ran datblygu busnes yn wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot ac yn rhoi cyngor ynghylch ble i gyrchu cymorth i fusnes
- Ymchwilio i anghenion a dymuniadau ymwelwyr â wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot
- Cynnal digwyddiadau rhwydweithio ‘ymwybyddiaeth o le’ ar gyfer gweithredwyr twristiaeth
- Sefydlu rhwydweithiau o weithredwyr twristiaeth yn wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot gyda golwg ar ddarparu gweithgareddau rheoli cyrchfan
- Trefnu prosiect peilot i greu porth digidol i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr am Gastell Nedd Port Talbot.
Ariennir y prosiect Datblygu Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
I ddysgu rhagor am y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot galwch Twristiaeth ar 01639 686417 neu anfonwch e-bost Itourism@npt.gov.uk
Hysbysiad Preifatrwydd Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y GDPR), a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, yn rheoli sut y mae Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn ymdrin â'ch gwybodaeth. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gael trwy'r ddolen ganlynol
http://www.npt-business.co.uk/16126