Transport Links
Cysylltiadau
Trafnidiaeth
Ar y ffordd o
Gastell-nedd Port Talbot
Mae'r lleoliad ardderchog
ger traffordd yr M4 yn cynnig mynediad uniongyrchol i Lundain a
de-ddwyrain Lloegr tra bod yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn
rhoi cysylltiad effeithlon â chanolbarth a gogledd Lloegr trwy'r
M50, yr M5 a'r M6.

Caerdydd
|
50 munud
|
Bryste
|
1 awr 30 munud
|
Birmingham
|
2 awr 40 munud
|
Llundain |
3 awr 30 munud |
Ar y trên o Gastell-nedd Port Talbot
Mae Castell-nedd Port Talbot hefyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd
cenedlaethol ac mae gwasanaeth bob awr rhwng Llundain-Paddington,
gan ganiatáu mynediad i gysylltiadau rheolaidd â rhannau eraill o
Brydain ac Ewrop.
Caerdydd |
30 munud |
Bryste |
1 awr 10 munud |
Birmingham |
3 awr |
Llundain |
2 awr 45 munud |
Yn hedfan
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, dim ond 40 munud i ffwrdd yn
y car, yn cynnig teithiau awyr i dros 50 o gyrchfannau
uniongyrchol, a mwy na 400 o deithiau awyr cysylltu i bob rhan o'r
byd, gan gynnwys gwasanaeth cynlluniedig dyddiol i Faes Awyr
Schiphol, Amsterdam a chysylltiadau â llawer o gyrchfannau ledled y
byd.
Dros y
môr
Mae gan Ddociau a Harbwr Llanw Port Talbot y cyfleusterau angori
dyfnaf ym Môr Hafren ac maent yn gallu derbyn llongau hyd at
180,000 dwt. Hefyd, mae docfeydd cargo cyffredinol yn y doc mewnol
ar gyfer amrywiaeth o draffig, gan gynnwys cargo trwm Ro-Ro
(Roll-on/Roll-off) y mae angen cyfarpar codi arnynt.