Innov8

Yng Nghanolfan Fusnes Sandfields, mae rhaglen y cyngor Innov8 yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd naill ai a syniad busnes maent am archwilio iddo neu y mae angen cyngor ar redeg busnes presennol arnynt.

Mae cymorth ar gael i'ch helpu a'r canlynol:

  • Cynllunio Busnes
  • Cefnogaeth ac arweiniad wedi'u teilwra ar gyfer busnesau sy'n dechrau.
  • Mentora parhaus ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bodoli.

Mae'r rhaglen hefyd yn gallu'ch helpu i gael mynediad i gefnogaeth fwy arbenigol megis cadw cyfrifon, marchnata, etc. Hefyd, gallech fod yn gymwys i wneud cais am grant o £1000 tuag at gostau cychwynnol megis marchnata neu offer.

Hefyd, cynhelir digwyddiadau a chymorthfeydd cyngor yn y ganolfan, y mae rhai ohonynt yn cynnwys Cymorth Hyblyg i Fusnes a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Ewch i'r dudalen Digwyddiadau i gael mwy o wybodaeth.

I wneud apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch Sian Wyndham ar 07971 719745  neu e-bostiwch innov8@npt.gov.uk

Innov8
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Innov8
97 KB