Canolfan Fusnes Sandfields
Mae Canolfan Fusnes Sandfields yn un o fentrau entrepreneuraidd blaenllaw Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan roi llety swyddfa a gweithdy i fusnesau newydd a phresennol. Prif amcan y Ganolfan yw gwneud y camau cyntaf i mewn i'r byd busnes cyn hawsed ag y bo modd.

Wedi'i rheoli gan y tim datblygu economaidd, agorwyd y Ganolfan yn swyddogol ym 1998 a gwnaeth effaith yn gyflym gyda llu o fusnesau yn manteisio ar y cyfleusterau. Gydag adborth mor gadarnhaol, a nifer o fusnesau ar y rhestr aros, cafodd cynlluniau eu cyflwyno a'u cymeradwyo ar gyfer ail gam yr adeilad.
Yn gyfan gwbl, mae'r Ganolfan yn cynnig 24 swyddfa ac 11 gweithdy mewn meintiau amrywiol, gyda'r rhent yn dechrau o:
- Swyddfeydd £76.50 y mis gan gynnwys TAW
- Gweithdai £165.00 y mis gan gynnwys TAW
Yn ychwanegol, bydd angen talu am nwy chwarterol, dwr a thal gwasanaeth misol (sy'n cynnwys casglu sbwriel). Mae telerau'n cynnwys 'hawdd i mewn, hawdd allan' h.y. mis o rybudd gan y naill ochr i adael yr eiddo. Mae larwm tresmaswyr a chaeadau diogelwch wedi'u gosod ar bob swyddfa a gweithdy.

Mae gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan yn cynnwys:
- Gwasanaethau llungopio a ffacsio
- Cyfleusterau Cynadledda
- Man dangos band eang
- Parcio ceir
- Mynediad 24/7 i'r unedau
- Cyfleoedd i rwydweithio a phobl fusnes ifanc eraill yn y Ganolfan
Astudiaethau achos
PEBBLE ENGINEERING LTD
BUFFOON FILM AND MEDIA
4 COLOUR DIGITAL