Baglan Energy Park
Parc Ynni Baglan - Un o storïau llwyddiannus CNPT

Mae Parc Ynni Baglan yn un o leoliadau busnes a diwydiannol pwysicaf Cymru.
Mae'r parc 180 erw yn helpu i drawsnewid yr ardal, sicrhau dyfodol diwydiannol gwyrdd a chreu miloedd o swyddi.
Mewn lleoliad cyfleus ger traffordd yr M4, mae'r parc eisoes wedi denu cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chyfleusterau o'r radd flaenaf.
Mae Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer Rheoli Halogi Ecolab yn darparu rhai o dechnolegau mwyaf blaengar y diwydiant, gan gynnwys ystafelloedd glân a labordai cyfoes.
Mae GE Energy wedi adeiladu pwerdy £300m i'r parc, sy'n darparu trydan am brisiau cystadleuol i fusnesau sy'n lleoli yn y parc.
Mae Hi-Lex Cable Systems Ltd, cwmni mewn perchnogaeth Japaneaidd sy'n gweithgynhyrchu cydrannau i'r diwydiant moduro, yn cyflogi dros 230 o bobl yn ei brif swyddfa Ewropeaidd yn y parc.
Mae'r cwmni Eidalaidd Intertissue, sy'n rhan o Grŵp Sofidel, yn cynhyrchu hancesi papur, papur toiled a rholiau cegin ar gyfer brandiau archfarchnadoedd o'i felin bapur 1 miliwn troedfedd sgwâr.
Cwblhaodd Mardon Properties waith yn ddiweddar ar gam cyntaf datblygiad defnydd cymysg gwerth £20m o adeiladau swyddfeydd ac unedau diwydiannol sy'n denu amrywiaeth o gwmnïau.
Cwmni sy'n ystyriol o'r amgylchedd yw Montagne Jeunesse sy'n marchnata cynnyrch cosmetig megis pecynnau wyneb.
Adeilad swyddfeydd nodedig ywOne Talbot Gatewaysy'n sefyll wrth fynedfa'r parc. Mae Dŵr Cymru a phartneriaeth y GIG wedi adleoli i'r safle.
Mae Remploy Furniture, un o gyflenwyr celfi ysgol pennaf y DU, wedi ymgartrefu yn y parc ers 2005.
Mae Canolfan Flaengaredd Bae Baglan yn darparu amgylchedd i fusnesau ifanc, blaengar ac uwch-dechnolegol, a arweinir gan dechnoleg gynaliadwy, i dyfu. Mae'n cynnwys 39,000 tr. sgwâr o le dros bedwar llawr sy'n cynnwys 32 uned gychwynnol, ystafelloedd cyfarfod, cyfleuster cefnogi busnesau a chysylltiadau agos â phrifysgolion.
Mae'r Ganolfan Solar yng nghanol y parc yn rhandy i adeilad Canolfan Flaengaredd Bae Baglan. Mae'r cyfleuster yn cynhyrchu ei drydan ei hun o drydan dros ben a fwydir i'r system grid, gan symboleiddio ethos y parc.
Mae Canolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy gyntaf Cymru yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynhyrchu hydrogen, cynadleddau, ymchwil, arddangosiadau ac addysg, a'r cyfan yn rhedeg ar y ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd yn y parc.
Ffeithiau allweddol am Barc Ynni Baglan………….
- Unwaith bydd y parc wedi'i gwblhau, bydd cyfanswm y buddsoddiad oddeutu £400 biliwn.
- Mae mwy na 1,600 o bobl eisoes yn gweithio yn y parc, a phan fydd wedi'i orffen, bydd ganddo le ar gyfer hyd at 3,000 o swyddi.
- Mae pwerdy tyrbin nwy cylch cyfunGeneral Electric yn darparu trydan am bris cystadleuol i fusnesau yn y parc.
- Maesafle 82 erwIntertissue ym Maglan yn cynhyrchu tua 500 miliwn o roliau papur toiled sy'n ddigon i lapio'r ddaear 375 gwaith.
- Mae'r parc wedi derbyn y BURA (Gwobr Adfywio Trefol Prydain), yr Insider Award for Regeneration a'r Local Government Chronicle & Health Services Journal Sustainable Communities Award i gydnabod ei waith wrth greu dyfodol diwydiannol glanach a gwyrddach i'r ardal.
-
- Adeiladwyd y Ganolfan Solaryn wreiddiol ar gyfer cynhadledd y G8 yn Birmingham ar gyfer y prif weinidog Tony Blair a phenaethiaid gwledydd y G8.