Out of the Box Gift Company
Out of the Box Gift Company

Sefydlodd Sara Flay gwmni i gynhyrchu melysion
ac anrhegion wedi’u personoli, ar ôl rhagbrofi’r syniad busnes trwy
wneud eitemau yn ei chartref ar gyfer ei theulu a’I ffrindiau. Mae
Sara’n cynhyrchu losin wedi’u personoli a rhai brandiedig bellach
ar gyfer busnesau, unigolion ac elusennau, yn ogystal ag anrhegion
anghyffredin megis tuswau candi, ysnodenni unigryw a basgedi
danteithion arbenigol. Esboniodd Sara:
‘Symudais i mewn i’r Ganolfan ym mis
Chwefror, ond tyfodd y busnes yn rhy fawr i’m swyddfa’n fuan ac
roedd angen llawer mwy o le arna i. Fel busnes newydd dw i wedi
manteisio hefyd ar Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a’r cynllun
Innov8, ac mae hyn wedi fy helpu i droi rhywbeth a oedd yn hobi’n
fusnes go iawn. Defnyddiais i’r grant I greu gwefan newydd a
chynhyrchu cardiau busnes, taflenni a slipiau cyfarch; cafodd y
rhain i gyd eu creu gan Unfold Design – busnes arall sydd wedi’i
leoli yn y Ganolfan. Mae lleoli fy nghwmni yn y Ganolfan wedi fy
helpu i gadw fy ngorbenion yn isel, a chan fod cynifer o fusnesau
eraill yma dan yr un to mae’n darparu llu o gyfleoedd inni fownsio
ein syniadau yn erbyn ein gilydd.’