Croeserw Enterprise Centre
Canolfan Fenter
Croeserw
Mae cyfleuster cymunedol
cyfoes newydd i drigolion Croeserw wedi'i gymeradwyo ar ôl cael
cyfraniad gwerth £2.4 miliwn o arian Ewropeaidd.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal sawl
ymgynghoriad i gael gwybod beth sydd ei angen ar y pentref ac mae
wedi gweithio'n agos gyda phobl leol i gytuno ar ffordd
ymlaen.
Caiff y ganolfan newydd, gwerth cyfanswm o £3.4 miliwn, ei
hadeiladu ar hen safle Rhiw Lech View. Caiff y ganolfan gymunedol
bresennol ei dymchwel a chaiff y tir ei dirlunio'n ardal werdd.
Bydd y ganolfan newydd yn darparu lle hyblyg ar gyfer mentrau
cymunedol a busnesau bach newydd sy'n dechrau. Bydd hefyd yn
cynnwys amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunedol megis ardal
ieuenctid a hyfforddiant TG ddynodedig a dau weithdy llawn cyfarpar
ar gyfer cyrsiau hyfforddi sgiliau adeiladu a thrin gwallt a
harddwch.
Bwriedir adeiladu caffi cymunedol hefyd a fydd yn cynnig bwydlen
iach a man cwrdd ar gyfer holl aelodau'r gymuned leol.
Byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli yn y lle cyntaf gan y cyngor
ond yn y pen draw, byddai'n cael ei throsglwyddo i'r
gymuned.