Rhieni a gofalwyr
Mae diogelwch a lles pob plentyn - neu ddiogelu - yn fusnes i bawb. Gallech fod yn berthynas, yn gymydog, yn ffrind, yn rhiant, yn warchodwr plant, yn athro neu'n feddyg - neu'n gweithio i unrhyw sefydliad â chysylltiad â phlant a phobl ifanc.
Mae'r rhan fwyaf o blant yn gyffredinol yn mwynhau plentyndod hapus o fewn eu teulu eu hunain. Yn anffodus i rai, nid yw hyn yn wir. Yn ystod cyfnod anodd i'r teulu, rhaid i bawb sy'n adnabod y plentyn wneud y gorau y gall i'w gadw'n ddiogel a'i ddiogelu rhag niwed yn y dyfodol ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae diogelu’n golygu amddiffyn plant rhag camdriniaeth gorfforol, emosiynol, rhywiol ac esgeulustod. Mae hefyd yn golygu helpu plant i dyfu i fyny’n oedolion hyderus, iach a hapus.
Mae'r rhan hon o'r wefan yn ymwneud â helpu rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Drwy ddarparu gwybodaeth am y gwahanol fathau o gam-drin a dweud wrthych ble y gallwch fynd i roi gwybod am bryder neu gael cymorth a chefnogaeth bellach, rydym yn sicrhau bod Diogelu'n fusnes i bawb.
Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
Yr hyn y dylech ei wneud os ydych chi'n poeni am blentyn
Os oes gennych bryderon am ddiogelwch plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â'ch Tîm Diogelu lleol ar y rhifau ffôn isod:
Castell-nedd Port Talbot: spoc@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686802
Abertawe: singlepointofcontact@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635700
Os ydych chi'n amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â'r Heddlu.
Mewn sefyllfa nad yw'n argyfwng gallwch ffonio’r heddlu arffonio’r 101.
Os canfyddir bod plentyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o niwed sylweddol, bydd gweithwyr proffesiynol yn cydweithio â'r teulu i sicrhau y gellir amddiffyn y plentyn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc.
Cam-drin Domestig
Nid trais corfforol yn unig yw cam-drin domestig, gall hefyd fod ar ffurfiau eraill megis ymddygiad emosiynol, rheolaethol a gorfodi, a cham-drin economaidd rhwng dau berson 16 oed neu'n hŷn sydd â chysylltiad personol. (Deddf Cam-drin Domestig 2021).
Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys trais ar sail 'anrhydedd' fel y'i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) a phriodasau dan orfod, ac mae'n amlwg nad yw dioddefwyr wedi'u cyfyngu i un rhyw neu grŵp ethnig.
Mae'n bwysig deall nad yw cam-drin domestig yr un fath â pherthynas wael a gall ddigwydd yn ystod perthynas neu ar ôl iddi ddod i ben.
Bydd cam-drin domestig yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu hoes.
Mae dioddefwyr gwrywaidd yn dioddef llawer o'r un effeithiau cam-drin ag ar gyfer menywod. Maent yn debygol o deimlo'n gywilyddus iawn, yn ofnus, yn profi diffyg hunanwerth a hyder, yn teimlo'n ynysig, yn euog ac yn ddryslyd am y sefyllfa. Fodd bynnag, mae'r mater hwn yn effeithio'n anghymesur ar fenywod.
Sut yr effeithir ar blant?
Mae camdriniaeth yn effeithio ar blant mewn sawl ffordd, hyd yn oed ar ôl amser byr. Mae'r effeithiau hyn yn cynnwys:
- Teimlo'n ofnus
- Mynd yn swil
- Gwlychu'r gwely
- Rhedeg i ffwrdd
- Ymddygiad ymosodol
- Anawsterau ymddygiad
- Problemau gyda'r ysgol
- Diffyg canolbwyntio
- Cythrwfl emosiynol
I lawer, mae'n ymddangos yn syml: os yw unigolyn yn cael ei gam-drin, dylai godi a gadael, neu daflu'r camdriniwr allan. Mae unrhyw un sydd wedi bod mewn perthynas gamdriniol yn gwybod ei fod yn llawer anoddach na hynny. Mae'n eithaf cyffredin i rywun sy'n cael ei gam-drin adael a dychwelyd at y camdriniwr sawl gwaith
Mae'n bwysig bod yn glir nad yw cam-drin domestig yn fater preifat a gall hefyd fod yn fater amddiffyn plant.
https://thrivewomensaid.org.uk
https://www.calandvs.org.uk
https://swanseawomensaid.com
Iechyd Meddwl a Lles - Rhieni a Gofalwyr
2 Mae Wish Upon A Star yn darparu cymorth profedigaeth uniongyrchol a pharhaus i deuluoedd, unigolion a gweithwyr proffesiynol yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn a thrawmatig plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu iau.
Mae Family Lives yn darparu cymorth rhianta a chymorth i deuluoedd, gan gynnwys gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol a rhad ac am ddim i deuluoedd yng Nghymru (Parentline gynt), ar gyfer cymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol.
Mae Papyrus yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy'n cael trafferth meddwl am hunanladdiad, ac unrhyw un sy'n poeni am berson ifanc.
Mae'r Samariaid yn wasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24/7, sy'n rhoi cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, neu sydd mewn perygl o hunanladdiad.
YoungMinds yw prif elusen y DU sydd wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Mae Goroeswyr Profedigaeth drwy Hunanladdiad yn bodoli i ddiwallu'r anghenion a thorri'r unigedd a brofir gan y rhai sydd mewn profedigaeth drwy hunanladdiad.
Camfanteisio'n rhywiol ar blant
Beth yw Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant?
Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol lle mae plant yn cael eu hecsbloetio'n rhywiol am arian, pŵer neu statws.
Gall plant neu bobl ifanc cael eu twyllo i gredu eu bod mewn perthynas gariadus, gydsyniol. Gallent gael eu gwahodd i bartïon a gallent dderbyn cyffuriau ac alcohol. Efallai y meithrinir perthynas amhriodol â nhw ar-lein. Gall y sawl sy'n cam-drin fygwth y person ifanc yn gorfforol neu ar lafar neu fod yn dreisgar tuag ato. Bydd yn ei reoli a’i ddefnyddio ac yn ceisio’i ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu. Mae'n digwydd i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a menywod ifanc. Mae camdrinwyr yn glyfar iawn yn y ffordd y maent yn defnyddio’r bobl ifanc y maent yn eu cam-drin ac yn manteisio arnynt.
Mae rhai plant a phobl ifanc yn cael eu masnachu i neu o fewn y DU at ddibenion camfanteisio'n rhywiol.
Adnabod yr Arwyddion
Gallai hyd yn oed rhywbeth sy'n ymddangos fel ymddygiad arferol i blentyn yn ei arddegau fod yn arwydd bod plentyn yn cael ei ecsbloetio.
Gall y rhain gynnwys:
- Defnyddio ffôn symudol yn fwy neu ddefnyddio dyfeisiau eraill, a bod yn gyfrinachgar wrth wneud hynny
- Treulio gormod o amser ar-lein a bod yn gyfrinachgar am yr amser a dreulir ar-lein
- 'Cariad' neu 'ffrind' sylweddol hŷn neu lawer o ffrindiau newydd
- Newid mewn ymddygiad – dod yn gyfrinachgar, yn gecrus, yn ymosodol, yn aflonyddgar, yn dawel, yn ddi-ddweud
- Derbyn anrhegion heb esboniad neu eiddo newydd fel dillad, gemwaith, ffonau symudol neu gael arian neu os oes ganddynt arian neu nwyddau eraill fel alcohol, nad oes eglurhad amdanynt.
- Mynd ar goll yn rheolaidd o'r cartref neu'r ysgol, am gyfnodau heb esboniad a/neu'n aros allan yn hwyr neu drwy'r nos.
Beth alla’ ei wneud fel rhiant neu ofalwr?
Mae'n bwysig trafod â phlant y gwahaniaethau rhwng perthnasoedd iach ac afiach er mwyn helpu i dynnu eu sylw at risgiau posib. Mae yna hefyd nifer o gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich plentyn:
- Bod yn ymwybodol o newidiadau mewn ymddygiad neu unrhyw arwyddion corfforol o gam-drin fel cleisio.
- Bod yn ymwybodol o anrhegion neu eiddo newydd, heb esboniad, fel dillad, gemwaith, ffonau symudol neu os oes ganddynt arian neu nwyddau eraill fel alcohol, nad oes eglurhad amdanynt.
- Monitro'n ofalus unrhyw adegau o aros allan yn hwyr neu beidio â dychwelyd adref.
- Bod yn ofalus ynghylch ffrindiau hŷn sydd gan eich plentyn, neu berthynas â phobl ifanc eraill lle mae'n ymddangos bod anghydbwysedd o ran pŵer.
- Sicrhau eich bod yn deall y risgiau sy'n gysylltiedig â'ch plentyn yn mynd ar-lein a rhoi mesurau ar waith i leihau'r risgiau hyn.
Gall camfanteisio fod yn anodd ei adnabod, mae'n bwysig eich bod yn sylwi ar yr arwyddion ei fod yn digwydd.
Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol ffoniwch 999.
Os nad yw’ch pryder yn argyfwng gallwch ffonio’r heddlu ar 101.