Canol Tref a Dociau
Canol Tref a Dociau Port Talbot
Bydd adfywio ffisegol ac economaidd darnau helaeth o ganol tref
Port Talbot a’i dociau dros yr 20 mlynedd nesaf yn gwbl hanfodol i
ddenu buddsoddi newydd a gwella amgylchedd ardal y glannau.
Yn allweddol i’r datblygiad fydd cwblhau system ffyrdd newydd a
fydd yn rhoi mynediad i dir datblygu a hefyd yn symud traffig lleol
oddi ar yr M4.
Mae ystod o ddatblygiadau yn yr arfaeth ar gyfer y dociau, gan
gynnwys lle ar gyfer busnesau, swyddfeydd, manwerthu, hamdden a
thai.

Mae prif gynllun yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu
cyffrous gan gynnwys:
Adfywio canol tref Port Talbot yn ffisegol fel canolbwynt
cyfleoedd masnachol, preswyl, cymdeithasol a chyflogaeth.
Datblygu safleoedd diwydiannol, twristiaeth a hamdden ar hyd
coridor y glannau er mwyn denu buddsoddi, ymwelwyr a chyfleoedd
cyflogaeth.
Darparu safleoedd ger y dociau a choridor yr afon ar gyfer
datblygiadau tai.
Gwella’r isadeiledd cludiant cyhoeddus er mwyn manteisio i’r
eithaf ar botensial ardal glannau Castell-nedd Port Talbot.