Dechrau Busnes
Dechrau Busnes
Mae dechrau busnes yn gyffrous ac yn rhoi boddhad, ond mae hefyd yn llawn heriau. Ni ddylid tanamcangyfrif lefel yr ymroddiad y bydd ei angen arnoch.
Bydd llwyddiant eich busnes yn dibynnu'n rhannol ar eich agwedd a'ch sgiliau. Mae hyn yn golygu bod yn onest am ystod o faterion - eich gwybodaeth, eich statws ariannol a'r rhinweddau personol rydych yn gallu cyfrannu at eich busnes newydd.
Bydd ymroddiad, ysgogiad, dyfalbarhad a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau'n gryn help i drawsffurfio'ch syniad busnes yn realiti a bydd yn arbennig o bwysig yn y dyddiau cynnar.
