Amazon.co.uk
Amazon.co.uk - Adleoliad Llwyddiannus

Pan gyhoeddodd cwmni ar-lein enfawr Amazon ei fod yn mynd i greu
mwy na 1,000 o swyddi mewn canolfan ddosbarthu yng Nghastell-nedd
Port Talbot, gwnaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru eu gorau glas i
sicrhau na fyddai unrhyw oedi yn amserlen dynn Amazon.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio o fewn 22 ddiwrnod
i gyflwyno'r cais ac ymhen 15 mis o'r trafodaethau cychwynnol daeth
yr agoriad swyddogol, camp ryfeddol o ystyried maint y
datblygiad.
Roedd y ganolfan 800,000 tr. sgwâr a fyddai
cymaint â 10 cae pêl-droed, yn golygu codi adeilad 75,000 metr
sgwâr, parcio ar gyfer 175 o gerbydau a'r gallu i drafod hyd at 100
o symudiadau nwyddau bob dydd. Bu agor y ganolfan yn ddiweddar yn
hwb sylweddol i'r ardal oherwydd ei bod yn fuddsoddiad enfawr yng
nghyd-destun nifer y swyddi.
Cydnabuwyd cymhlethdod y prosiect a chyflymder y broses o'i roi ar
waith yn seremoni wobrwyo Insider Property yn ddiweddar, lle cafodd
y Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru wobr Deal of the
Year.
"Un o'r prif resymau dros ddewis Bae
Abertawe fel lleoliad oedd y ffynhonnell o ddoniau lleol y gallem
ei defnyddio, ac mae'n wych bod cynifer o bobl o'r ardal yn ymuno â
ni."
Chris Griner, Uwch-reolwr
Gweithrediadau