D2 Joinery
D2 Joinery

Sefydlodd David Owen ei fusnes gwaith coed ym
mis Medi 2009, ar ôl treulio’r tair blynedd flaenorol yn adeiladu
gitarau mewn garej. Wedi iddo sylweddoli nad oedd y busnes
gitarau’n ddigonol i ariannu ei gynlluniau i ehangu’r busnes, fe
drodd o wneud gitarau at fod yn saer celfi, drysau, ffenestri a
cheginau. Erbyn hyn roedd angen adeilad addas arno i storio ei
beirianwaith newydd i gyd.
‘Edrychais i ar sawl uned yn yr ardal, ond
Canolfan Busnes Pobl Ifanc Sandfields oedd yr un fwyaf deniadol o
bell ffordd. Roedd y pris yn rhesymol, roedd yr adeilad a’r tir o’i
gwmpas yn lân ac yn broffesiynol, roedd y lle parcio a mynediad i’r
safle’n ddelfrydol ac roedd y diogeledd yn tawelu’r meddwl. Roedd y
rheolwyr yn ardderchog, a chefais fod y broses gyfan rhwng yr
ymholiadau cyntaf a symud I mewn yn gyflym ac yn hawdd iawn. Roedd
y Ganolfan yn creu amgylchiadau delfrydol hefyd imi rwydweithio
gyda busnesau eraill. Ers dechrau dw i wedi rhoi gwaith i fusnesau
eraill sydd yn y Ganolfan a derbyn gwaith oddi wrthyn nhw, a dw I
o’r farn bod y tasgau cynnar hynny, ynghyd â’r cymorth a ges i gan
Innov8, wedi bod yn hanfodol bwysig i lwyddiant fy
musnes.’
Erbyn hyn mae angen mwy fyth o le ar David, ac
mae wedi symud I Ystad Ddiwydiannol Endeavour Close lle mae ei
fusnes yn dal i dyfu.