Cam-drin Plant yn Rhywiol

Camfanteisio'n rhywiol ar blant yw cam-drin plant.

Gall unrhyw blentyn o unrhyw gefndir gael ei ecsbloetio'n rhywiol, waeth beth fo'i ryw neu ei rywioldeb neu ei gefndir cymdeithasol neu ethnigrwydd.

  • Nid yw oedran yn ddangosydd risg ychwaith – nid yw'r plant rydych chi'n gweithio gyda nhw’n rhy ifanc.
  • Mae troseddwyr yn hynod ystrywgar: gallant ddefnyddio trais ac ofn, blacmel neu wneud i'r plentyn deimlo'n euog, yn ddiwerth neu nad oes ganddo unrhyw ddewis.
  • Gall troseddwyr fod yn oedolion neu'n blant, yn wrywaidd neu'n fenywaidd, ac o unrhyw gefndir.
  • Mae'r troseddwyr sy'n gwneud hyn yn fedrus wrth dargedu a pharatoi pobl ifanc.

Os oes gennych unrhyw bryderon y gallai plentyn neu berson ifanc rydych yn ei adnabod fod yn dioddef camfanteisio rhywiol mae cymorth ar gael.

Dylai unrhyw ymarferydd â phryderon siarad â'i Swyddog Diogelu a dilyn gweithdrefnau diogelu ei asiantaeth.

Cymerwch gip ar Ganllaw Arfer Da Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

"Ymgyrch Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol – Mae’n amser i ni siarad am y peth".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar fynd i'r afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol, gan gynnwys Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ac Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB).

Mae’r Cynllun Cenedlaethol hwn yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer partneriaid y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol sydd â rôl arweiniol wrth weithredu'r Cynllun hwn.

Un weithred yw hyrwyddo Stop It Now! Cymru a'i ymgyrch - 'Atal cam-drin plant yn rhywiol – Mae'n amser i ni siarad am y peth'.
https://www.stopitnow.org.uk/wales/its-time-we-talked-about-it/

Mae ein hymgyrch 'Mae'n amser i ni siarad am y peth' wedi'i chynllunio i helpu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol a'u hecsbloetio. Gweler isod ddolenni ac adnoddau defnyddiol.
https://www.stopitnow.org.uk/wales/its-time-we-talked-about-it/

Gweler yr adnoddau addysgol isod.
https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/4d70707b-5636-466b-b22c-40eccae431be/cy?sort=recent&strict=1

Cliciwch isod i weld fideo byr ar ddiogelwch plant.
https://www.youtube.com/watch?v=xOjq3Ihl-sE

Mae CSA Centre yn dîm amlddisgyblaethol a ariennir gan y Swyddfa Gartref ac a gynhelir gan Barnardo's sy'n gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol o sefydliadau academaidd, awdurdodau lleol, iechyd, addysg, yr heddlu a'r sector gwirfoddol.
https://www.csacentre.org.uk/