Bwlio a diogelwch ar-lein

Mae bwlio'n effeithio ar lawer o bobl a gall ddigwydd yn unrhyw le: yn yr ysgol, teithio i'r ysgol ac oddi yno, mewn timau chwaraeon, mewn cyfeillgarwch neu mewn grwpiau teuluol.

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio. Ond fe'i diffinnir fel arfer fel ymddygiad mynych sydd â'r bwriad o frifo rhywun naill ai'n emosiynol neu'n gorfforol, ac mae'n aml wedi'i anelu at rai pobl oherwydd eu hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw agwedd arall megis ymddangosiad neu anabledd.

Gall bwlio fod ar sawl ffurf gan gynnwys:

  • ymosodiad corfforol
  • bwlio cymdeithasol
  • ymddygiad bygythiol
  • galw enwau
  • seiberfwlio

Mae Bullying UK yn darparu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr a gwefan sy'n darparu cymorth a chyngor ar bob ffurf o fwlio

Kidscape: Darparu cyngor a gwybodaeth i blant, teuluoedd, cynhalwyr a gweithwyr proffesiynol i gadw plant yn ddiogel.

Cyngor diogelwch, tecstio a negeseua ar-lein

Mynnwch gyngor ac arweiniad i gadw'n ddiogel ar-lein wrth negeseua ac wrth rannu eich gwybodaeth breifat drwy ymweld.