Cam-drin Domestig

Beth yw cam-drin domestig?

Mae Llywodraeth y DU yn diffinio trais a cham-drin domestig fel a ganlyn:
Nid trais corfforol yn unig yw cam-drin domestig, gall hefyd fod ar ffurfiau eraill megis ymddygiad emosiynol, rheolaethol a gorfodi, a cham-drin economaidd rhwng dau berson 16 oed neu'n hŷn sydd â chysylltiad personol. (Deddf Cam-drin Domestig 2021).

Mae llawer o wahanol fathau o gam-drin domestig; mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • ymddygiad lle rheolir drwy orfodaeth/cam-drin emosiynol/seicolegol
  • cam-drin corfforol
  • cam-drin rhywiol
  • cam-drin ariannol
  • aflonyddu a stelcian

Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys amrywiaeth o ymddygiadau sy'n ddibwys pan gânt eu hystyried fel digwyddiadau unigol. Os ydynt yn cynnwys patrwm ymddygiad sy'n arwain at deimlad o ofn, braw neu ofid, camdriniaeth yw hyn.

Ar bwy y gall cam-drin domestig effeithio?

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un beth bynnag fo'i oedran, rhyw, cenedligrwydd, ethnigrwydd ac ni waeth beth fo'i incwm, dosbarth neu statws, statws mewnfudo, tueddfryd rhywiol neu faterion iechyd (gan gynnwys beichiogrwydd).

Gall cam-drin domestig ddigwydd rhwng pobl sydd:

  • mewn/wedi bod mewn perthynas agos â'i gilydd
  • yn/wedi byw gyda'i gilydd
  • wedi cael plant gyda'i gilydd
  • yn gysylltiadau teuluol agos.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth cymorth a gwybodaeth cyfrinachol, am ddim i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig neu rywiol neu sydd am gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth cymorth sydd ar gael ac mae ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Ffoniwch y rhif rhadffôn 0808 80 10 800.