Plant & Phobl Ifainc

Mae gan bob plentyn ac unigolyn ifanc hawl i fod yn ddiogel!

Os ydych chi'n blentyn neu'n unigolyn ifanc, mae'r rhan yma ar eich cyfer chi. Mae'n bwysig eich bod chi'n deall sut i gadw eich hun yn ddiogel a phwy mae modd i chi droi atyn nhw am help a chymorth. Gallwn ni eich helpu chi os:

  • ydych chi'n cael eich cam-drin gan rywun ac yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud
  • ydych chi'n credu bod plentyn/unigolyn ifanc arall yn cael ei gam-drin ac yn awyddus i roi gwybod am eich pryderon

Help

Cofiwch, os ydych mewn perygl uniongyrchol neu os ydych am gael cymorth brys, cysylltwch â'r heddlu ar 999.

Ydych chi angen cyngor neu angen siarad gyda rhywun, ac am siarad gyda ni'n gyfrinachol:

1: Mae Childline yn wasanaeth cwnsela cyfrinachol a phreifat, 24 awr, i blant a phobl ifainc hyd at 19 oed. Gall darparu cymorth a chyngor ar amrywiaeth eang o faterion. Ffôn: 0800 11 11

2: Mae'r NSPCC yn darparu llinell gymorth 24 awr, sy'n cynnig cyngor a chymorth i blant a'u teuluoedd. NSPCC yw'r elusen flaenllaw i blant sy'n brwydro i ddod â cham-drin plant i ben yn y DU.

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE)

Math o gam-drin plant yw Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

Iechyd Meddwl a lles plant a phobl ifanc

Gwasanaethau cymorth i plant a phobl ifanc

Bwlio a diogelwch ar-lein

Mae bwlio'n effeithio ar lawer o bobl a gall ddigwydd yn unrhyw le

Bwrdd Diogelu Iau

Diben y BDI yw bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i leisio’u pryderon am ddiogelwch